Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Proffil

Mae swyddfa Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer wedi ei leoli yn y Bala, Meirionydd, ac yn gweithio'n rheolaidd ar draws Gogledd Cymru.

Sefydlwyd y cwmni yn 2007 gyda'r uchelgais o wella yr amgylchedd adeiladol trwy ganolbwyntio ar gymeriad adeiladau, safle, a chynaladwyaeth (amgylcheddol a chymdeithasol).  Ers hynny, mae'r cwmni wedi datblygu iaith ac arddull bensaerniol sy'n gynhenid gyfoes yn ogystal a datblygu arbenigaeth mewn cadwraeth ac adeiladau hanesyddol.  Yn ganolig i hyn yw'r egwyddor y dylai pensaerniaeth adlewyrchu ei gyfnod ei hun - gyda lle yn ein cymdeithas ar gyfer y cyfoes ac hanesyddol. Trwy werthfawrogiad o adeiladau hynafol a dulliau adeiladu traddodiadol a cynhenid, gellir hysbysu pensaerniaeth gyfoes sydd wedi ei wreiddo i'w ardal, ond osgoi ail-defnydd llythrennol, ramantaidd a difeddwl o ffurfiau adeiladau a deunyddiau. 

Yn sefyll o flaen y swyddfa mae cofgolofn Thomas Ellis, gwladgarwr ac arloeswr gwleidyddol, a wnaeth osod yr her i ni yn ôl yn 1896 - i ddarparu;

''...adeiladau sydd yn addas ar gyfer eu defnydd, ac wedi eu dylunio gyda gofal fel eu bod yn bleser i'w gweld, a cherdded heibio''


Proffil

 
annedd newydd yn Bont Ddu

annedd newydd yn Bont Ddu

Apwyntwyd Rhys Llwyd Davies er mwyn datblygu cynnigion manwl…
plas newydd

plas newydd

Mae Plas Newydd wedi ei leoli ar ochr ddeheuol…
jubilee buildings | adeiladau jiwbili

jubilee buildings | adeiladau jiwbili

Mae Jubilee Buildings, yn Dolgellau, yn anghyffredin ar gyfer…
Plas Isa

Plas Isa

Erbyn i'r gwaith ar yr adeilad yma gael ei…
adeilad gawod Y Vanner

adeilad gawod Y Vanner

Prosiect oedd hwn i godi cyfleusterau cawod newydd ar…
Adeiladau Glyndŵr

Adeiladau Glyndŵr

Roedd Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer yn…

Deg:Deg

Deg:Deg