Mae swyddfa Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer wedi ei leoli yn y Bala, Meirionydd, ac yn gweithio'n rheolaidd ar draws Gogledd Cymru.
Sefydlwyd y cwmni yn 2007 gyda'r uchelgais o wella yr amgylchedd adeiladol trwy ganolbwyntio ar gymeriad adeiladau, safle, a chynaladwyaeth (amgylcheddol a chymdeithasol). Ers hynny, mae'r cwmni wedi datblygu iaith ac arddull bensaerniol sy'n gynhenid gyfoes yn ogystal a datblygu arbenigaeth mewn cadwraeth ac adeiladau hanesyddol. Yn ganolig i hyn yw'r egwyddor y dylai pensaerniaeth adlewyrchu ei gyfnod ei hun - gyda lle yn ein cymdeithas ar gyfer y cyfoes ac hanesyddol. Trwy werthfawrogiad o adeiladau hynafol a dulliau adeiladu traddodiadol a cynhenid, gellir hysbysu pensaerniaeth gyfoes sydd wedi ei wreiddo i'w ardal, ond osgoi ail-defnydd llythrennol, ramantaidd a difeddwl o ffurfiau adeiladau a deunyddiau.
Yn sefyll o flaen y swyddfa mae cofgolofn Thomas Ellis, gwladgarwr ac arloeswr gwleidyddol, a wnaeth osod yr her i ni yn ôl yn 1896 - i ddarparu;
''...adeiladau sydd yn addas ar gyfer eu defnydd, ac wedi eu dylunio gyda gofal fel eu bod yn bleser i'w gweld, a cherdded heibio''




