Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

annedd newydd yn Bont Ddu

Apwyntwyd Rhys Llwyd Davies er mwyn datblygu cynnigion manwl ar gyfer yr annedd newydd yma ar dir ar ymyl aber yr afon Mawddach, yn Bont Ddu, rhwng Dolgellau a Bermo.  Mae'r safle yn un serth iawn, ac roedd angen i'r eiddo gyrraedd lefel 3 o'r 'Code for Sustainable Homes'.  Bu i ni ddefnyddio topograffi'r safle fel peth positif, a dylunio adeilad gyda oel troed sy'n camu i fyny'r tir gyda'r ysfafelloedd byw ar lefel mynediad (uwchben) lle mae'n manteisio ar lefel uchel o olau naturiol a golau haul.  Mae'r ystafelloedd gwely wedyn ar y lefel isaf, gan ddarparu mwy o breifatrwydd iddynt i ffwrdd o'r fynedfa, ac wedi eu amgylchynu gan goed a phlanhigion eraill i greu gardd gysgodol.

Mae gwaith adeiladu ar ei ganol o dan reolaeth y perchennog.