Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Y Lasynys

Mae Rhys Llwyd Davies wedi datblygu cynlluniau manwl ar gyfer canolfan groeso newydd ar gyfer Y Lasynys Fawr (www.lasynys.co.uk), cartref hanesyddol yr offeriad ac awdur Ellis Wynne (1671-1734) a oedd yn gyfrifol am ysgrifennu Gweledigaethau'r Bardd Cwsg, sydd yn cael ei ystyried yn un o ddarnau llenyddol cynharaf Cymru.  Bu i ni sicrhau caniatâd cynllunio ac adeilad rhestredig yn 2012 ac mae ymgeision parhaus ar hyn o bryd i sicrhau'r cyllid angenrheidiol er mwyn gwireddu'r prosiect.

Byddai'r adeilad yn ychwanegiad cyfoes i'r safle, wedi ei leoli'n ofalus er mwyn cynnal golygfeydd pwysig o'r prif adeilad.  Mae'r ffurf cyfredinol a dewis o ddeunyddiau yn gyson gyda adeiladau cynhenid amaethyddol, ond yn cael ei fynegi mewn modd cyfoes hyderus.  Bydd y defnydd newydd arfaethedig yn cyfoethogi profiad ymwelwyr i'r Lasynys ac i'r ardal yn fwy eang.

Y Lasynys