Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

adeilad gawod Y Vanner

Prosiect oedd hwn i godi cyfleusterau cawod newydd ar Faes Carafannau'r Vanner (http://www.vanner.co.uk/) ger Llanelltud.  Mae'r adeilad newydd yn fodern ac yn cael ei oleuo'n naturiol, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn gyda ymwelwyr sy'n dychwelyd yn rheolaidd.  Mae'r drysau mawr i flaen yr adeilad yn llithro i'r ochr, gan adael i'r adeilad gael ei gau tros y gaeaf pan nad yw'r safle ar agor, ond yn datgelu mynediad groesawgar pan fyddent ar agor.  Mae hyn hefyd yn gadael i ddefnyddwyr lochesu o dan y to, ond cael golygfa allan tua'r afon Mawddach.  Cafodd y strwythur ei adeiladu yn llwyr yn ystod tymor y gaeaff, gyda'r hen adeilad yn cael ei ddymchwel yn mis Tachwedd 2009, a'r adeilad newydd mewn defnydd erbyn tymor yr haf canlynol.

adeilad gawod Y Vanner