Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

tyddyn yr ynn

Mae'r prosiect yma yn annedd newydd ar safle un blaenorol wrth ymyl Llyn Trawsfynnydd. Mae yna hanes cymleth i'r safle, a pan fu i Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer ymgymryd a'r gwaith, bu iddynt etifeddu sgerbwd noeth strwythur hearn a oedd wedi ei godi ar gyfer adeilad gwahanol, ond bod y gwaith adeiladu wedi cael ei cael ei atal ar ei ganol.  Datblygwyd gyninion manwl ar gyfer anedd newydd a oedd yn defnyddio ffurf bras y fframwaith bresennol, tra hefyd yn atbe gofynnion y cleient am gartref na fydd yn cael ei gysylltu i'r rhwydwaith trydannol.  Er bod peth trydan i'w gynhyrchu gan baneli solar, bu i benderfyniadau dylunio yn cael eu harwain gan yr angen i ddarparu golau naturiol, strategaeth gwyntyllu goddefol, a lliehau'r defnydd o egni gan chymeryd mantais o egni naturiol yr haul.  Mae'r holl ystafelloedd wedi eu lleoli o amgylch un ystafell fyw ganolig, yr unig ofod fydd yn cael ei gynhesu'n uniongyrchol ac fydd hefyd yn ganolbwynt i fywyd y tŷ.  Mae'r dyluniad yn magwysiadu ffurff to traddodiadol, ond gyda ffenestr do ganolig drawiadol, sydd yn darparu lefel uchel o olau naturiol yng ngannol cynllun dwfn, gan hefyd ddarparu ffurff o wyntyllu'n naturiol a creu gofod mewnol arbennig.

 

Bu i waith adeiladu gychwyn yn mis Tachwedd 2013, drwy gytundeb goruchwyliaeth (management contract) dan reolaeth y cleieint.