Bwthyn bach gwledig yw Tyddyn Llafar, sydd wedi ei gynnwys ar gofrestr 'adeiladau traddodiadol' Awdurdod Parc Cenedlathol Eryri. Rhys Llwyd Davies yw'r pensaer ar gyfer y gwaith o'i adfer yr adeilad, ac mae caniatâd cynllunio wedi ei dderbyn yn barod.
Mae'r cynnigion yn cynnwys estyniad un-llawr ar ochr ddeuheuol yr adeilad presenol, wedi ei osod i mewn i't tir. Bydd hwn yn estyniad o'r lethr naturiol gan atgyfnerthu cymeriad yr adeilad presenol, sef tyddyn bychan yn sefyll yng nghannol cefn gwlad. Mae newidiadau i'r strwythur presenol wedi eu cadw i'r lleiaf er mwyn caniatau hyn, gyda'r estyniad yn darparu ystafell fyw cyfoes gyda golfygfa unigryw tros Llyn Tegid a'r Arenig.
Bu'r swyddfa'n gyfrifol am y prosiect o'r cychwyn hyd ddiwedd y gwaith adeiladu yng ngwanwyn 2013. Gellir llogi'r adeilad ar gyfer cyfnodau o wyliau (http://www.balacottagebreaks.co.uk/propdetails.cfm?PropID=6703)