Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Deg:Deg

Yn mis Tachwedd 2017, dathlodd y cwmni 10 mlynedd ers agor y swyddfa. Commisynwyd ffotograffau i gofnodi’r 10 mlynedd gan ddewid 10 o brosiectau sy’n cwmpasu’r cyfnod, dathlu cyd-weithio, adlewyrchu’r ystod eang o waith, ond hefyd (gobeithio) yn dod i’r afael ag uchelgais y cwmni.  Yr amcan o’r cychwyn oedd gwella amgylchedd adeiladol ardal fy magwraeth trwy ganolbwyntio ar gymeriad adeiladau, safl e, a chynaladwyedd. Rwy’n hoffi meddwl fod y practis ers hynny wedi datblygu iaith ac arddull bensaernïol sy'n gynhenid gyfoes gan adlewyrchu ei gyfnod ond yn parchu lleoliad, hanes a diwylliant. Trwy werthfawrogiad o adeiladau hynafol a dulliau adeiladu traddodiadol a chynhenid, gellir hysbysu pensaernïaeth gyfoes sydd wedi ei wreiddio i'w ardal, ond osgoi ailddefnydd llythrennol, rhamantaidd a difeddwl o ffurfi au adeiladau a deunyddiau.

Arddangoswyd y ffotograffau am un diwrnod ar 10 Chwefror 2018, yng Nghanolfan Plase, Y Bala, gan obeithio am gyfle arall i'w dangos i'r cyhoedd cyn hir.  Mae llyfryn i gynnwys y gwaith ar gael yn ein swyddfa.

All pensaernïaeth ddim cael ei wireddu heb gleientiaid, adeiladwyr a nifer o gyfranwyr eraill. Diolchaf yma felly i’r rhain oll sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith tros y blynyddoedd, ac yn arbennig i’r staff sydd wedi bod yn rhan mor greiddiol o’r hyn sydd wedi ei gyfl awni. Mae’r diolch mwyaf yn mynd i Eleanor, fy ngwraig, am fod mor amyneddgar.