Roedd yr adeilad rhestredig yma wedi cael ei adnewyddu yn rhannol gan berchennog blaenorol, ond gyda defnyddiau anaddas, tra bod rhannau eraill o'r adeilad mewn dyflwr difrifol. Nid oedd Caniatâd adeilad rhestredig wedi cael ei dderbyn ar gyfer yr addasiadau, ac roedd y perchenog newydd bellach yn gyfrifol am ddilysu y newidiadau a dychwelyd rhannau eraill o'r adeilad i'r ffurf gwreiddiol.
Roedd Rhys Llwyd Davies yn bensaer ac asiant gyda chyfrifoldeb am atgyweirio'r adeilad, yn ogystal a gweithredu ar ran y cleient er mwyn derbyn arain grant. Cafodd y gwaith ei gwblhau yn gynnar yn 2009 ac yn cynnwys to newydd, amnewid ffenestri to, trwsio ffenestri ac ail-bwyntio gyda morter calch.