Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

rosedale

Mae Rosedale yn rhan o deras o dai trefol unigryw wedi eu hadeiladu â brics coch.  Mae'r teras i gyd wedi ei restru (gradd II*) ac mae nifer fawr o rinweddau a manylion gwreiddiol wedi eu cadw.  Roedd y prosiect yn gyfle i ddymchwel estyniad gwael i gefn yr eiddo gan godi estyniad newydd i ddarparu gofod gyfoes newydd oedd yn fwy addas ar gyfer gofynion heddiw, ond ar safle cyfyng.  Mae'r estyniad yn dynwared ffurf adeiladau allanol sydd i gefn yr holl deras ac yn glynu'r adeiladau gyda'i gilydd, ac hefyd ffurfio cwrt preifat rhwng yr hen a'r newydd.  Mae'r prosiect yn gwneud defnydd cywrain o batrymau brics er mwyn gwahnaiaethu rhwng yr hen a'r newydd tra bod y gosodiad mewnol yn gyfoes ei naws gyda lefel uchel o olau naturiol.

Dyluniad syml gan gadw costau'n isel a chyd-fynd a'r cyd-destyn hanesyddol gan ddefnyddio manylion adeiladu cywrain.  Agweddau sy'n nodweddiadol o amcanion Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer.  Cafodd y gwaith adeiladu ei orffen yn mis Gorffennaf 2013.