Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

rhyd ddu

Mae hwn yn estyniad domestig i gartref bychan, er iddo fod yn gyfuniad o ddau fwthyn cynnar.  Bu iddo gael ei ddefnyddio fel cartref gwyliau ac roedd angen ei addasu er mwyn ei wneud yn addas ar gyfer cartref parhaol.  Mae'r dyluniad yn cymeryd mantais o ffactor oedd cynt yn anfantais - gardd gefn sy'n uwch na'r eiddo ei hun, ond yn codi yn ei flaen i gopa'r Wyddfa!

Mae ystafell wely newydd wedi ei leoli uwcheben adeilad ar oledd i gefn y tŷ, gyda varanda ar lefel yr ardd, gan ganiatau cysylltiad cryf rhwng bywyd tu mewn a tu allan.  Mae'r gegin wedi cael ei ail-leoli oddi tanodd gyda agoriadau newydd mewnol i wella'r gosodiad.

Cafodd Caniatâd Cynllunio a Chaniatâd Rheolaeth Adeiladu eu derbyn yn 2009 gyda gwaith adeiladu yn cael ei gablhau yn 2010.