Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Erw Foty

Mae'r prosiect yma wedi trawsnewid byngalo oedd wedi gweld dyddiau gwell, trwy adfywio'r gosodiad mewnol ac ymestyn i'r ochr a'r cefn.  Mae'r feranda allanol yn darparu ystafell allanol i'w ddefnyddio trwy'r flwyddyn, tra'n cadw haul poeth yr haf i ffwrdd o'r ystafell ffenestri mawr.  Yn ystod misoedd y gaeaf, gwanwyn a hydref, mae heulwen yn llenwi'r estyniad, gan gymeryd mantais o wres naturiol yr haul i wersogi'r tŷ.

Cafodd yr estyniad ei orffen yn Awst 209 ac mae'r client yn hapus iawn gyda'r 'dyluniad perffaith'.

Rhys Davies oedd yn gyfrifol am y prosiect trwy'r holl broses, gan gynnwys dylunio, cyflwyno cais am ganiatâd cynllunio, a goruchwylio'r gwaith adeiladu.