Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Tŷ coets Taldir

Rhys Llwyd Davies yw y pensaer ar gyfer y gwaith o drosi'r ty coets hynafol yma yn gartref cyfoes. Yn dilyn sawl rhwystr, gan gynnwys darparu cartref newydd i deulu o ystlumod, mae gwaith adeiladu wedi ei orffen yn mis Hydref 2010.

Mae'r gwaith dylunio yn nodweddiadol o waith Rhys Davies gan wneud y mwyaf o gymeriad yr adeilad presennol er mwyn atgyfnerthu naws y safle, a hynny mewn ffordd gyfoes.  Mae'r estyniad ar y pen deheuol wedi ei gysgodi o dan y canopi presennol gan adael i'r pileri cerrig barhau i sefyll allan tra'n cydnabod y gwahaniaeth rhwng yr hen a'r newydd.  Mae un piler yn parhau i sefyll ar ben ei hun, gyda wal yr estyniad yn rhedeg y tu cefn i'r llall i ymestyn allan o loches y to uwchben.  Mae'r effaith yma wedi ei gryfhau gan y defnydd gofalus o ddefnydd, a lleoliad y ffenestri y ddwy ochr o'r piler.  Mae cadw yr estyniad yn fras o fewn oel traed yr adeilad presennol yn cadw cymeriad y berthynas rhwng y tŷ coets a'r cyd destun.  Ar y tu mewn, mae'r ystafell fyw yn ymestyn i fyny i'r to, gyda pont yn hedfan trosodd yn ddramatig i ystafell wely ymwelwyr.