Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

plas newydd

Mae Plas Newydd wedi ei leoli ar ochr ddeheuol Y Stryd Fawr yn Dolgellau ac yn gyfuniad o 3 uned sydd i gyd wedi eu rhestru ar wahanol, gradd II, am eu diddordeb hanesyddol.  Mae'r edrychiad allanol yn Sioraidd, ond mae adolygiad archeolegaidd o'r adeilad yn awgrymu fod rhannau yn y cefn yn llawer hyn, efallai'n dyddio o ddiwedd y 16eg ganrif, ac felly yn debygol o fod yn un o adeiladau hynaf Dolgellau.  Roedd Rhys Llwyd Davies - Architect | Pensaer yn gyfrifol am adnewyddu rhan ganol a gorllewniol yr adeilad fel rhan o Fenter Treftadaeth Treflun Dolgellau. Roedd hyn yn cynnwys gwaith trwsio ac adnewyddu sylweddol i'r uned ganolig, ac ail-drefnu gosodiad yr uned orllewinol er mwyn darparu mynedfa ar wahân ar gyfer fflat ar y llawr cyntaf.  Daeth nifer o nodweddion diddorol, cudd, i'r golwg yn ystod y gwaith, gan gynnwys pared mwntin ac astell cynnar, sydd bellach wedi ai adnewyddu ac i'w weld yn yr uned ganolig.

Bu i'r gwaith adeiladu ddod i ben yn Mis Mawrth 2013.