Erbyn i'r gwaith ar yr adeilad yma gael ei gwblhau fe fydd wedi cael ei drawsnewid o gartref i'r defaid i uned gwyliau o'r safon uchaf. Mae newidiadau i strwythur yr adeilad wedi eu cyfyngu tra bod pob ymdrech wedi ei wneud i gymeryd mantais o egni'r haul i gynhesu'r adeilad yn naturiol, a chadw'r cymeriad unigryw.
Rhys Llwyd Davies oedd yn gyfrifol am y gwaith dylunio, a manylion adeiladu. Derbynwyd caniatâd cynllunio a rheolaeth adeiladu yn 2010.