Bwthyn bychan yw Min y Morfa, yn llawn cymeriad, ond angen ei adnewyddu ar gyfer gofynion heddiw. Cafodd y llawr cyntaf ei addasu yn y 20fed ganrif i gynnwys ystafell ymolchi, gan leihau maint yr ystafelloedd gwely, tra bod y grisiau yn angyffredin o gyfyng a pheryglys. Mae'r estyniad newydd wedi ei ddylunio'n ofalus i lynu i gefn adeilad allanol oedd yn gysylltiedig i ochr orllewinol yr eiddo. Roedd hyn yn caniatau'r anedd i ymestyn heb niweidio cymeriad yr eiddo tra bod cynnwys grisiau newydd yma yn rhyddhau gweddill yr eiddo ac ehangu maint yr ystafelloedd byw a chysgu.
Rhys Llwyd Davies oedd y pensaer ar gyfer y gwaith, gyda chyfrifioldeb am ddylunio, caniatâd cynllunio a pharatoi cynlluniau adeiladu. Cafodd y gwaith ei gwblhau erbyn y Nadolig yn 2009, ac mae'r perchnogion yn hapus iawn gyda'r gweddnewid i'w cartref.
