Rhys Llwyd Davies oedd y pensaer ar agyfer adnewyddu Liverpool House yn Dolgellau. Mae'r hen siop Threshers yma, wydd wedi ei restru, gradd II, yn ymddangos yn Sioraidd o'r stryd ond mae rhannau o'r adeilad yn debygol o ddyddio o'r 17fed ganrif. Mae'r adeilad yn gartref i 'Gwin Dylanwad Wine' (http://www.dylanwad.co.uk/), gwerthwr gwin lleol annibynnol sydd hefyd yn rhedeg sessiynnau blasu gwin a bar gwin ar y safle. Mae'r gwaith adeiladu yn cynnwys adfer blaen siop o'r 19fed ganrif, codi estyniad gwydr yn lle strwythur o'r 1970au sydd yn cuddio rhannau o'r adeiladwaith gwreiddiol, ac ail-drefnu gofalus o'r gosodiad mewnol er mwyn datgelu rhannu o'r adeilad oedd wedi eu cuddio, a chyrraedd gyfynion rheolaeth adeiladu heddiw. Agorwyd yr adeilad yn mis Tachwedd 2014.