Mae Jubilee Buildings, yn Dolgellau, yn anghyffredin ar gyfer y lleoliad - adeilad 'modern' â ffram concrit, to fflat a waliau rendr wedi ei adeiladu o fewn patrwm trefol canoloesoedd ac wedi ei amgylchynnu gyda adeiladau cerrig â thoau llechi. Roedd yr arddull yma'n nodweddiadol o'r cyfnod pryd yr adeiladwyd (tua 1937) ac roedd yn cynnwys siopau ar y llawr isaf a swyddfeydd uwchben. Ar ôl cael ei droi at ddefnyddiau gwahanol ar ôl hynny, collwyd unrhyw ddefnydd iddo gyda dirwywiad mawr yn ei gyflwr.
Rhys Llwyd Davies oedd y pensaer ar gyfer adnewyddu'r adeilad unigryw yma, fel rhan o Fenter Treftadaeth Treflun Dolgellau. Mae hyn yn cynnwys atgyweirio'r edrychiad allanol, yn gyson ac arddull y 30au, tra'n rhannu'r lloriau uchaf yn fflat a swyddfeydd. Mae'r gwaith adeiladu wedi gorffem ers mis Ebrill 2011 gyda Rhys Llwyd Davies yn gyfrifol am y dylestwyddau pensaerniol yr holl ffordd drwy'r broses. Cafodd yr adeilad ei drawsnewid o fod yn embaras i'r dref i fod yn adeilad pwysig sy'n cael effaith positif ar olwg Dolgellau, tra'n darparu gofod masnachol bwysig ar gyfer yr economi leol.