Architect Bala North Wales | Rhys Llwyd Davies

Heulwen

Mae Heulwen yn dŷ trefol tri llawr ac yn adeilad rhestredig (gradd II) oedd mewn cyflwr gwael cyn i Rhys Llwyd Davies gymeryd cyfrifoldeb am y gwaith adnewyddu.  Cafodd yr adeilad ei drosi'n swyddfa a dau fflat ar wahân yn ystod y 70au, gan golli nifer o rinweddau gwreiddiol a chymeriad.  Cyn y gwaith adnewyddu, roedd y swyddfa wedi sefyll yn wag ers dros 10 mlynedd a doedd dim tenantiad wedi bod yn y fflatiau am gyfnod helaeth.  Yn sgil hynny, roedd yna broblemau gyda pren yn pydru, diffyg gwaith cynnal a chadw a dim buddsoddiant.

Mae'r ddau fflat bellach wedi eu trosi'n un cartref gan adnewyddu un o'r prif nodweddion - y grisiau canolig sy'n trefnu gosodiad yr adeilad, yn ogystal ac adfer cydbwysedd y prif ystafelloedd byw ar y llawr cyntaf.  Mae nodweddion gwreiddiol fel manylion gwaith pren wedi eu achub lle cafwyd eu difrodi gan y newidiadau blaenorol tra bod system wresogi tan y llawr wedi ei osod yn ogystal a boiler biomas pellets pren sydd hefyd yn gwresogi'r swyddfa.