Mae Bryniau Golau yn darparu llety gwyliau 5 seren gyda golygfeydd tros Llyn Tegid ger Y Bala ((www.bryniau-golau.co.uk). Roedd Rhys Llwyd Davies yn gyfrifol am ddyluio a gwireddu estyniad cyfoes i'r gegin ar ochr ogleddol yr adeilad, sydd wedi trawsnewid rhan preifat yr adeilad. Mae'r estyniad wedi ei ddylunio'n ofalus i gyd-fynd a chymeriad yr adeilad gwreiddiol, tra'n gwneud defnydd mawr o wydyr i ddarparu lefel uchel o olau naturiol. Mae hefyd yn galluogi golau haul i gyrraedd rhan o'r tŷ oedd cynt yn oer a thywyll tra'n gadael i'r prechnogion reoli eu preifatrwydd.
Cafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau yn ystod cyfnod byr yn ystod y gaeaf, gan ganiatâu ymwelwyr i gael eu croesawu ar gyfer y Pasg 2010.


